Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 21 Ionawr 2022
Amser: 10. - 12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12724
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Amelia John, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru Stuart Fitzgerald, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Cafwyd datganiadau o fuddiant perthnasol gan yr Aelodau a ganlyn:
· Carolyn Thomas AS
· Joel James AS
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 3 - y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai, Llywodraeth Cymru
Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru
2.2. Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i gyflwyno rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:
· y rhesymau pam mae llawer o rieni o leiafrifoedd ethnig wedi nodi eu bod yn ddigartref i awdurdodau lleol;
· amlinelliad o’r amserlen weithredu ar gyfer Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a, phan fydd ar gael, nodyn ar y gwersi a ddysgwyd o’r ddeddfwriaeth.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru "Adolygiad Digartrefedd: Drws agored i newid cadarnhaol"
3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch yr adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, "Adolygiad Digartrefedd: Drws agored i newid cadarnhaol".
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch materion tai a godwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA)
3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y materion tai a godwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA).
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.
6 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau
6.1. Trafododd y Pwyllgor adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau.